Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad
y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser
y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (163) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-7 a 9-10. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn
Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei adolygiad o gyllid Addysg Uwch?
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.26
3 Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Cyflwyno'r Bil Tai (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 14.36
4 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddinas-ranbarthau
Dechreuodd yr eitem am 15.18
5 Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013
Dechreuodd yr eitem am 15.50
NDM5355 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl ar Gyllideb Ddrafft 2014-15
Dechreuodd yr eitem am 15.52
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5356 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 8 Hydref 2013.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol a wnaethpwyd yn y gyllideb ddrafft i’r gwasanaeth iechyd yn sgîl y pwysau a roddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2014-15 fel ei bod:
a) yn diogelu’r gyllideb iechyd mewn termau real ac yn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol eithriadol sy’n wynebu byrddau iechyd lleol yng Nghymru;
b) yn bodloni anghenion busnesau ledled Cymru, er budd economi Cymru;
c) yn mynd i’r afael â’r heriau cyllido sy’n wynebu colegau Addysg Bellach, er mwyn iddynt allu darparu amrywiaeth lawn o sgiliau a chyrsiau galwedigaethol i ddysgwyr yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r cytundeb pwysig a gyflawnwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i sicrhau:
a) Cronfa Gofal Canolraddol i leihau’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ddarparu gofal yn nes at adref;
b) bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddyblu;
c) tri robot Da Vinci modern a fydd yn darparu gweithdrefnau llawfeddygol llai mewnwthiol;
d) cronfa technoleg iechyd a thelefeddygaeth i roi Cymru ar flaen y gad ym maes technoleg feddygol;
e) bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei diogelu; ac
Yn nodi ymhellach yr effaith gadarnhaol y bydd buddsoddiadau o’r fath yn ei chael ar gymunedau ledled y wlad a’r gwelliannau mewn gwasanaethau cymunedol a fydd yn dilyn hynny.
Cefnogwyd gan:
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r gweithredu ar y cyd rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, a sicrhaodd y canlynol yn y Gyllideb Ddrafft:
a) £35 miliwn ychwanegol i ddyblu'r cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol;
b) Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i gefnogi byw’n annibynnol ac i leihau’r pwysau ar y system gofal mewn argyfwng;
c) buddsoddiad ychwanegol o £9.5 miliwn yn y Gronfa Technoleg Iechyd er mwyn cynyddu buddsoddiad mewn telefeddygaeth; a
d) Pecyn Cefnogi Pobl gwerth £5.5 miliwn i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd.
Cefnogwyd gan:
Elin Jones (Ceredigion)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5356 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
1. Yn nodi’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 8 Hydref 2013.
2. Yn nodi’r cytundeb pwysig a gyflawnwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i sicrhau:
a) Cronfa Gofal Canolraddol i leihau’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ddarparu gofal yn nes at adref;
b) bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddyblu;
c) tri robot Da Vinci modern a fydd yn darparu gweithdrefnau llawfeddygol llai mewnwthiol;
d) cronfa technoleg iechyd a thelefeddygaeth i roi Cymru ar flaen y gad ym maes technoleg feddygol;
e) bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei diogelu; ac
Yn nodi ymhellach yr effaith gadarnhaol y bydd buddsoddiadau o’r fath yn ei chael ar gymunedau ledled y wlad a’r gwelliannau mewn gwasanaethau cymunedol a fydd yn dilyn hynny.
Cefnogwyd gan:
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
3. Yn croesawu’r gweithredu ar y cyd rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, a sicrhaodd y canlynol yn y Gyllideb Ddrafft:
a) £35 miliwn ychwanegol i ddyblu'r cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol;
b) Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i gefnogi byw’n annibynnol ac i leihau’r pwysau ar y system gofal mewn argyfwng;
c) buddsoddiad ychwanegol o £9.5 miliwn yn y Gronfa Technoleg Iechyd er mwyn cynyddu buddsoddiad mewn telefeddygaeth; a
d) Pecyn Cefnogi Pobl gwerth £5.5 miliwn i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd.
Cefnogwyd gan:
Elin Jones (Ceredigion)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
14 |
12 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
7 Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13
Dechreuodd yr eitem am 17.22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5357 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y pryder a godwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch difrifoldeb trefniadau diogelu annigonol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth ganfyddiad yn yr adroddiad bod lleisiau plant a phobl ifanc yn aml yn cael eu hanwybyddu’n llwyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth gadarnach o ran mynediad at eiriolaeth broffesiynol annibynnol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â
chyflwyno Bil Plant a Phobl Ifanc (Cymru) er ei hymrwymiad yn
natganiad deddfwriaethol 2011, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
wyrdroi’r penderfyniad hwn a chyflwyno deddfwriaeth i gryfhau
hawliau plant a phobl ifanc ac i ddiwygio’r sail statudol
dros swyddfa’r Comisiynydd Plant.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ymateb i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru cyn y ddadl flynyddol arno. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM5357 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.13
Daeth y cyfarfod i ben am 18:18
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 20 Tachwedd 2013